top of page
Board meeting background image

Cwrdd â'r Bwrdd

Bwrdd Rheoli

Rheolir First Choice gan Fwrdd Rheoli hynod broffesiynol ac ymroddedig a etholir o blith cyfranddalwyr y Gymdeithas yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod o bryd i'w gilydd i bennu strategaeth a pholisi, monitro perfformiad a sicrhau bod y Gymdeithas yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o adnoddau i gyflawni ei hamcanion. Mae rhai materion yn cael eu dirprwyo i Bwyllgorau, fel a ganlyn:
 
  • ARC 

  • Pwyllgor Pobl a Diwylliant
     
Y Bwrdd Rheoli sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y Gymdeithas tra bod rheolaeth o ddydd i ddydd yn cael ei dirprwyo i'r Prif Weithredwr.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod safonau'n cael eu bodloni a bod y Gymdeithas yn atebol ac yn agored. Mae hefyd yn gosod cyfeiriad strategol y Gymdeithas.

Matthew

Matthew Wilde

Cadeirydd y Bwrdd

Mae Matthew yn fuddsoddwr sydd â chefndir cryf mewn cyllid. Mae ganddo bron i ddegawd o brofiad buddsoddi ac mae ganddo Dystysgrif CIMA mewn Cyfrifeg Busnes. Mae ei ffocws ar gefnogi busnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau technoleg newydd, i gyrraedd eu nodau trwy ddarparu datrysiadau cyllid teilwredig ac arweiniad gwerthfawr ar lefel bwrdd.

black and white photo of a lady with black hair, glasses

Sian Evans

Is-gadeirydd

Mae Sian yn gyfrifydd cymwysedig ac mae wedi gweithio ym maes tai ers 28 mlynedd. Sian yw Cyfarwyddwr Cyllid Beacon Cymru ac mae'n mentora nifer o fyfyrwyr sy'n astudio'u harholiadau Cyfrifeg. Hefyd, mae'n aelod o Banel Sector Cyhoeddus ACCA. 

Geraldine Buckland Cadeirydd y Bwrdd

Geraldine Buckland

Aelod Bwrdd

Mae Geraldine yn weithiwr proffesiynol Adnoddau Dynol ac Iechyd a Diogelwch, ac mae ganddi gymhwyster FCIPD. Hefyd, mae'n aelod o ffrwd doniau'r Llywodraeth ar gyfer busnesau newydd ac roedd hi'n un o lofnodwyr sylfaen y Tasglu Menywod mewn Busnes. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ar lefel HRD a Chyfarwyddwr Gweddnewidiol. 

lady posing for a headshot, smiling in a green shirt.,

Emma Morgan

Cadeirydd Pobl a Diwylliant

Mae Emma Morgan yn weithiwr proffesiynol ym maes tai sydd, ar hyn o bryd, yn gweithio i Gymdeithas Tai yn ardal Abertawe. Mae ganddi wybodaeth fanwl am Gyfraith Tai a gweithio o fewn y fframwaith rheoleiddio ar gyfer tai.

gentleman posing for photo in a dark blue nike shirt.

Steve Williams

Aelod Bwrdd

Ymunodd Steve â'r Bwrdd yn 2018. Roedd yn Rheolwr Gyfarwryddwr grŵp cartrefi gofal preifat ac mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad o weithio mewn rolau arwain. Bellach, mae'n aelod o fyrddau nifer o elusennau cenedlaethol, sy'n gweithio gyda'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.

Edwin

Edwin Jones

Aelod Bwrdd

Mae Edwin wedi gweithio gyda phobl sydd ag amrywiaeth o anghenion cymorth er mwyn gwella ansawdd bywyd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ers dros 40 mlynedd. Mae ganddo PhD, roedd yn uwch-gymrawd ymchwil yng Nhganolfan Anableddau Dysgu Cymru ac mae'n athro er anrhydedd ym Mhrifysgol De Cymru. Hyd nes iddo ymddeol, bu mewn swyddi uwch mewn darparwyr cymorth trydydd sector, elusennau cenedlaethol a'r GIG. 

headshot of man with white hair smiling at camera with blue shirt and pink polo.

Nick Rutherford

Aelod Bwrdd

Mae Nick Rutherford yn arweinydd technoleg creadigol sydd â thros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sectorau gweithgynhyrchu a chyfleustodau, gan yrru amrywiol fentrau trawsnewid digidol. Mae Nick yn gyn-gydymaith addysgu yn Ysgol Busnes Warwick, mae wedi cadeirio amrywiol bwyllgorau technoleg, ac mae hefyd mae wedi sefydlu digwyddiadau technoleg arwyddocaol ym Mryste ac roedd yn gyd-sylfaenydd Gŵyl Dechnoleg Bryste.

headshot of woman with a blue and shite shirt smiling toward camera.

Tanya Barrett

Aelod Bwrdd

Mae Tanya yn Gyfreithiwr cymwysedig sydd wedi gweithio yn y sector tai cymdeithasol ers dros 13 blynedd. Mae Tanya yn aelod o'r Sefydliad Siartredig Tai a'r Gymdeithas Ymgyfreitha Eiddo ac mae ganddi brofiad o helpu landlordiaid a thenantiaid i fynd i'r afael â'u hawliau a'u rhwymedigaethau cyfreithiol.

Cymdeithas Tai First Choice Ltd
10 Village Way, Greenmeadow Springs
Caerdydd
CF15 7NE
Ffôn: (029) 20703758

Cofrestrwyd gyda Statws Elusennol o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
Rhif 26118R Cofrestrwyd gyda Senedd Cymru o dan rif J094

© Cymdeithas Tai First Choice 2020
Dyluniwyd yn fewnol gan ein tîm TGCh

Ffoniwch: 02920703758

  • LinkedIn
  • Facebook
  • Instagram

Polisi Preifatrwydd

bottom of page