top of page

Eich Cartref

Mae gan First Choice dîm pwrpasol ar gyfer rheoli tai.

 

Mae'r tîm yn gyfrifol am gytundebau tenantiaeth, rhenti a thaliadau gwasanaeth, a chyfranogiad tenantiaid.

 

Contractau Meddiannaeth Tai a
 Chytundebau Tenantiaeth

 

  • Rydym yn cyhoeddi Contractau Meddiannaeth Tai neu Gytundebau Tenantiaeth i denantiaid newydd

  • Rydym yn dod â Chontractau Meddiannaeth Tai neu Gytundebau Tenantiaeth i ben ar gyfer tenantiaid sy'n gadael eu cartref First Choice 

  • Rydym yn delio ag unrhyw broblemau pan fydd rheolau tenantiaeth wedi’u torri

  • Rydym yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Rydym yn hysbysu tenantiaid o'u hawliau a'u cyfrifoldebau fel tenant First Choice 

  • Rydym yn delio â chwynion

  

Rhent a Thaliadau Gwasanaeth

 

  • Rydym yn anfon llythyrau hysbysu rhent i roi gwybod i denantiaid ac awdurdodau lleol am gynnydd blynyddol mewn rhent.

  • Rydym yn monitro newidiadau i daliadau gwasanaeth sy'n cael eu hawlio gan ddarparwyr cymorth tenantiaid.

  • Rydym yn delio ag ôl-ddyledion rhent (arian heb ei dalu) gan fudd-dal tai neu ein tenantiaid.

  • Rydym yn delio ag ad-daliadau rhent. Mae hyn yn cynnwys sefydlu cynlluniau ad-dalu, os oes angen.

  

Adolygiadau

 

Rydym yn cynnal cyfarfodydd bob blwyddyn gyda’n heiddo, awdurdodau lleol partner a darparwyr cymorth i wirio bod popeth yn iawn yn ein heiddo a gyda'n gwasanaethau.

 

  • Mae gennym Adolygiadau Rheoli Tai Blynyddol yn ein holl eiddo

  • Mae gennym Adolygiadau Cytundebau Gwasanaeth gyda Darparwyr Cymorth

  • Mae gennym Adolygiadau Cytundebau Cymorth gydag awdurdodau lleol

  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a darparwyr cymorth

  

Hyfforddiant

 

Mae ein tîm rheoli tai yn rhoi hyfforddiant i ddarparwyr cymorth. Mae hyfforddiant yn cynnwys:

 

  • Taliadau gwasanaeth cymwys

  • Hawliau a chyfrifoldebau tenantiaeth

  • Materion rheoli a chynnal a chadw tai

 

Hefyd, rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi i denantiaid ar eu hawliau a'u cyfrifoldebau.

Cymdeithas Tai First Choice Ltd
10 Village Way, Greenmeadow Springs
Caerdydd
CF15 7NE
Ffôn: (029) 20703758

Cofrestrwyd gyda Statws Elusennol o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
Rhif 26118R Cofrestrwyd gyda Senedd Cymru o dan rif J094

© Cymdeithas Tai First Choice 2020
Dyluniwyd yn fewnol gan ein tîm TGCh

  • LinkedIn
  • Facebook
  • Instagram

Ffoniwch: 02920703758

Polisi Preifatrwydd

bottom of page