top of page

 Gwneud cais am Gartref First Choice 

 Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol  

Os hoffech chi neu rywun rydych chi'n ei gefnogi fyw yn un o'n heiddo, cysylltwch â thîm Gwasanaethau Oedolion eich Awdurdod Lleol.


Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu llety o safon uchel i bobl agored i niwed sydd angen cymorth. Yn aml, mae'r llety yn bwrpasol ac wedi'i addasu i anghenion tenantiaid. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o'n cartrefi, Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am enwebu tenantiaid i'n heiddo ac am sicrhau bod ganddynt becyn cymorth i alluogi tenantiaid i fyw'n annibynnol.

Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog 

Llety Hostel TÅ· Dewr i Gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn Wrecsam:


Mae TÅ· Dewr yn cynnig 12 ystafell wely en-suite yn yr adeilad hwn o safon uchel sydd wedi’i leoli mewn lleoliad gwledig tawel ychydig filltiroedd yn unig o ganol y dref, gyda champfa allanol wedi’i hadeiladu ar dir y safle.

Mae un ystafell yn cynnig llety cwbl hygyrch i gadair olwyn.

Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn darparu cymorth i'r rhai a allai ei chael hi'n anodd pontio i fywyd y tu hwnt i'r lluoedd neu sy'n dioddef o PTSD, caethiwed neu broblemau iechyd meddwl eraill.

 

Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref ac angen cymorth i bontio i fywyd y tu hwnt i'r lluoedd, ac mae byw yn NhÅ· Dewr o ddiddordeb i chi, cysylltwch â:

 

Gwasanaethau Cwsmeriaid neu'r Tîm Rheoli Tai ar 02920 703758


TÅ· Ryan - Byw’n Annibynnol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn Wrecsam:


Mae TÅ· Ryan yn gynllun byw’n annibynnol gyda chymysgedd o 16 o fflatiau un a dwy ystafell wely newydd eu datblygu yn 2018 ym Mhorth y Gorllewin, Wrecsam.

​

Hoffech chi wneud cais?

Ydych chi:

​

  • Yn gyn-aelod o'r lluoedd arfog 

  • Yn perthyn i gyn-aelod o'r lluoedd arfog

  • Yn gysylltiedig â chyn-aelod o'r lluoedd arfog trwy briodas

​

Os ydych, cysylltwch â 02920 703 758 - opsiwn 2
neu e-bostiwch customerservices@fcha.org.uk

Cymdeithas Tai First Choice Ltd
10 Village Way, Greenmeadow Springs
Caerdydd
CF15 7NE
Ffôn: (029) 20703758

Cofrestrwyd gyda Statws Elusennol o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
Rhif 26118R Cofrestrwyd gyda Senedd Cymru o dan rif J094

© Cymdeithas Tai First Choice 2020
Dyluniwyd yn fewnol gan ein tîm TGCh

  • LinkedIn
  • Facebook
  • Instagram

Ffoniwch: 02920703758

Polisi Preifatrwydd

bottom of page