top of page

Cwestiynau Cyffredin am Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru

Beth sydd wedi newid?​

​​

O 1 Rhagfyr 2022 ymlaen, newidiodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) y ffordd rydych chi'n rhentu eich cartref. Effeithiodd y ddeddf hon ar bob landlord a thenant yng Nghymru.
 

O dan y ddeddf hon, daw tenantiaid newydd a thenantiaid presennol yn 'ddeiliaid contract' ac mae 'contractau meddiannaeth' wedi disodli cytundebau tenantiaeth.
 

Os ydych chi'n denant gyda FCHA, anfonom gopi atoch o'ch contract meddiannaeth ar ôl 1 Rhagfyr 2022. Mae'n gwella sut rydym ni'n rhentu, yn rheoli ac yn cynnal a chadw tai rhent yng Nghymru ac mae'n cynnig mwy o sicrwydd i denantiaid.

Dylai'r Cwestiynau Cyffredin hyn roi i chi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch.
Byddwch wedi cael yr holl wybodaeth hon yn y post, trwy gychlythyron, ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddigwyddiadau i denantiaid yn 2022 am y newid. 
 

Mathau o gontract

Mae dau brif fath o gontract meddiannaeth sy'n gallu cael eu cyhoeddi mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys copi electronig neu gopi papur:

1.     Mae contract diogel yn disodli tenantiaethau diogel a gyhoeddir gan awdurdodau lleol a thenantiaethau diogel a gyhoeddir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs)

2.     Contract Safonol yw'r contract gosodedig ar gyfer y sector rhentu preifat, ond gall awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ei ddefnyddio o dan rai amgylchiadau e.e. 'contract safonol â chymorth' ar gyfer llety â chymorth.

​

Eich contract meddiannaeth

Mae eich contract meddiannaeth gyda ni wedi'i gyflwyno mewn 'datganiad ysgrifenedig'. Diben y datganiad ysgrifenedig yw cadarnhau telerau'r contract. Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn cynnwys holl delerau gofynnol y contract, sef:

  1. Materion allweddol: Er enghraifft, enwau'r partïon a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract.

  2. Telerau sylfaenol: Mae'r rhain yn cwmpasu'r agweddau pwysicaf ar y contract, gan gynnwys y gweithdrefnau meddiannu a dyletswyddau'r landlord o ran atgyweirio.

  3. Telerau atodol: Mae'r rhain yn delio â materion mwy ymarferol o ddydd i ddydd sy'n berthnasol i'r contract meddiannaeth, er enghraifft y gofyniad am hysbysu'r landlord os bydd yr eiddo yn wag am bedair wythnos neu fwy.

  4. Telerau ychwanegol: Mae'r rhain yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion eraill y cytunwyd yn benodol arnynt, er enghraifft telerau sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes.

Os hoffech wybod rhagor am sut bydd y ddeddf newydd yn effeithio arnoch chi, ewch i Lywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Video

Cwestiynau 
Cyffredin

Beth yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)? 
​
  • Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru basio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gyda'r nod o'i gwneud hi'n haws ac yn symlach i landlordiaid a thenantiaid rentu cartref yng Nghymru.

  • Y Ddeddf hon yw'r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei chynllunio ers tro.

  • Mae'n cyflwyno llawer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth a bydd yn berthnasol i landlordiaid cymdeithasol (fel FCHA) a'r sector rhentu preifat.

  • Mae mudiadau tenantiaid, fel TPAS Cymru a Shelter Cymru, wedi craffu ar y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno gan y Ddeddf.

​​​

Pryd bydd yn digwydd?  
  • Daw'r Ddeddf i rym ar 1 Rhagfyr 2022. 
     

Beth yw diben y Ddeddf? 
  • Mae'n symleiddio cytundebau ac yn dwyn cysondeb i gontractau a sicrwydd i bobl sy'n rhentu eu cartref yng Nghymru.

  • Mae'n gwella safon rhai o'r cartrefi sydd ar rent yng Nghymru.
     

Ar bwy mae'n effeithio? 
  • Pob landlord: preifat a chymdeithasol 

  • Pob tenant: preifat a chymdeithasol
     

Pam mae'n digwydd? 
  • I'w gwneud hi'n haws ac yn fwy cyson pan fyddwch chi'n rhentu cartref yng Nghymru.

  • I wneud yn siwr bod gan bawb sy'n rhentu yng Nghymru gartref sy'n addas i bobl fyw ynddo.

  • I wella cysondeb safonau, p'un a ydych chi'n byw mewn cartref ar rent gan landlord cymdeithasol fel FCHA, gan Gyngor neu gartref ar rent gan landlord preifat.

  • I roi mwy o sicrwydd i bobl sy'n byw mewn cartref preifat ar rent.
     

Beth sy'n newid? 
  • O dan y gyfraith, bydd 'Cytundeb Tenantiaeth' yn cael ei alw'n 'Gontract Meddiannaeth' a bydd 'Tenant' yn cael ei alw'n 'Ddeiliad Contract'. 

  • Mae'n rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel a bod â nodweddion fel larymau mwg sydd wedi'u cysylltu â'r cyflenwad trydan a chael profion diogelwch trydanol rheolaidd. 

  • Mae rhai rheolau newydd ar gyfer delio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

  • Mae mwy o hawliau olynu, sef yr hawl i drosglwyddo eich cartref i bobl eraill pan fyddwch yn marw. O dan rai amgylchiadau, gallech drosglwyddo eich cartref i ofalwyr neu i aelodau eraill o'r teulu.

  • Gyda chydsyniad eich landlord, gellid ychwanegu neu dynnu Deiliad Contract o Gytundeb heb fod angen dirwyn y contract i ben. 

  • Bydd landlordiaid yn gallu adfeddu eiddo y cefnwyd arnynt heb orchymyn llys. 
     

Beth mae'n ei olygu i fi fel tenant?  
  • Mae'n symleiddio ac yn gwella eich hawliau fel tenant. 

  • Mae'n gwella sut mae rhai landlordiaid yn rheoli tai rhent yng Nghymru.

  • Bydd tenantiaid presennol FCHA yn cael Contract Meddiannaeth o fewn 6 mis o 1 Rhagfyr 2022, sy'n disodli eich Cytundeb Tenantiaeth. 
     

A fydd yn costio arian i mi neu'n cael effaith ar fy rhent? 
  • Na fydd, ni fydd yn cael effaith ar eich rhent ac ni fydd yn costio arian i chi.
     

Beth mae angen i mi ei wneud?
  • Ar ôl i chi gael eich contract, darllenwch ef ac ymgyfarwyddo â'r cynnwys. Bydd eich contract yn esbonio beth allwch ei wneud neu beidio fel tenant, a beth all FCHA ei wneud neu beidio fel landlord. 

 
Ble alla' i ddysgu rhagor? 

Ewch i: https://www.llyw.cymru/mae-cyfraith-tai-yn-newid-rhentu-cartrefi 

Cymdeithas Tai First Choice Ltd
10 Village Way, Greenmeadow Springs
Caerdydd
CF15 7NE
Ffôn: (029) 20703758

Cofrestrwyd gyda Statws Elusennol o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
Rhif 26118R Cofrestrwyd gyda Senedd Cymru o dan rif J094

© Cymdeithas Tai First Choice 2020
Dyluniwyd yn fewnol gan ein tîm TGCh

  • LinkedIn
  • Facebook
  • Instagram

Ffoniwch: 02920703758

Polisi Preifatrwydd

bottom of page