Safon Ansawdd
Tai Cymru
Mae FCHA yn angerddol am ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i'n tenantiaid ac roedd yn falch iawn o gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru yn flaenorol yn 2012. Rydym yn croesawu cyflwyno'r safonau newydd ac rydym wedi bod yn gweithio i ddeall effaith cyflawni'r rhain, ynghyd â'r cerrig milltir allweddol y mae angen i ni eu cyrraedd er mwyn gwneud hynny. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r safonau, lle bo hyn yn bosibl, i bob un o'n heiddo ac rydym wedi bod yn paratoi'r tir ar gyfer hyn ers rhai blynyddoedd trwy ein gwaith ar ddatgarboneiddio. Bydd ein Polisi Cydymffurfio yn parhau i esblygu wrth i'r safonau eu hunain esblygu, mae'n siwr, ond byddwn yn dryloyw am ein cynlluniau, ein cynnydd a'n cyflawniadau a byddwn yn cyhoeddi'r cynnydd hwn yn flynyddol ar ein gwefan.
​
Cyflwyniad
​
Mae Cymdeithas Tai First Choice (FCHA) wedi cael y fraint o gartrefu pobl ag anableddau dysgu ers dros 35 mlynedd. Dros y cyfnod hwnnw, rydym wedi tyfu'n sylweddol ac mae gennym raglen ddatblygu 5 mlynedd uchelgeisiol a fydd yn gweld y gymdeithas yn parhau i dyfu mewn ffordd gynaliadwy. Yn 2024, fe wnaethom gyrraedd carreg filltir, sef ein bod yn darparu cartrefi cyffredin mewn strydoedd cyffredin i 1000 o denantiaid fyw ynddynt. Yn hollol briodol, mae'r gymdeithas yn falch o'r gamp hon a beth mae'n ei golygu i'r tenantiaid sy'n byw yn ein heiddo.
​
Mae First Choice wedi cydymffurfio'n llawn â Safon Ansawdd Tai Cymru ers Rhagfyr 2012 ac wedi parhau i gydymffurfio hyd nes cyflwyno'r safonau newydd. O ran y safonau newydd a amlinellir yn Safon 2023, bydd FCHA a phob cymdeithas tai arall yng Nghymru yn gorfod dechrau o waelodlin lle nad ydym yn cydymffurfio mwyach. Yn hytrach, rydym yn anelu at gydymffurfio'n llawn erbyn 31 Mawrth 2034, gyda chamau targedig yn y cyfamser.
​​
Bydd y Polisi Cydymffurfio hwn yn amlinellu sut mae'r gymdeithas yn bwriadu cyflawni'r holl gamau targedig, a thrwy'r ddogfen hon y bydd ein holl randdeiliaid, gan gynnwys y Bwrdd Rheoli a Thenantiaid y gymdeithas, yn gallu monitro cynnydd. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol ar ôl ei gyflwyno ar 31 Mawrth 2025.
​
Bwriedir i'r polisi cydymffurfio hwn roi sicrwydd i randdeiliaid ynghylch cywirdeb unrhyw wybodaeth ystadegol i Lywodraeth Cymru, gan dalu sylw i'r meysydd canlynol:
• Yr ymagwedd at Safon Ansawdd Tai Cymru, gan adlewyrchu adnoddau ac amgylchiadau lleol;
​
• Meddalwedd rheoli asedasu;
​
• Ymgysylltu â thenantiaid;
​
• Gwirio annibynnol;
​
• Datganiadau cydymffurfio i denantiaid newydd;
​
• Elfennau nad ydynt yn cael eu mesur, a fydd yn cael sylw mewn datganiadau eglurhaol manwl;
​
• Gweithgarwch sydd â chostau afresymol;
​
• Naratif Llwybrau Ynni Targed;
​
• Ailddatblygu, dymchwel a charbon
​
• Buddion cymunedol.
​
Mae cynnydd wedi'i wneud ar daith y gymdeithas at gydymffurfio'n llawn â'r safonau erbyn 31 Mawrth 2034. Mae cyflwyno'r polisi hwn yn rhan o'r gwaith cynnar pwysig hwnnw yr oedd yn rhaid ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2025. Y garreg filltir allweddol nesaf i'w chyflawni erbyn 31 Mawrth 2027 yw cwblhau Asesiad Stoc Cyfan, sy'n arwain at Lwybr Ynni Targed. Dyma ofynion elfennol cydymffurfio â'r safonau. Hyd nes bod y rhain yn cael eu cwblhau ac ar waith, mae'n rhaid deall y bydd bylchau'n parhau yn y set ddata lawn.
​
Gallwch ddarllen y Polisi llawn ar Safon Ansawdd Tai Cymru ac adolygu'r atodiadau trwy glicio ar y botymau isod:
​​