top of page
Group of staff in orange or grey FCHA tshirts with their arms in the air cheering. They're on a green field with a blue sky.

Ein Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Rydym yn cydnabod yr effaith a gaiff gweithio ar draws Cymru a Lloegr ar yr amgylchedd ac ar y cymunedau rydym ni'n rhan ohonynt. Felly, mae FCHA yn ymrwymo i fynd y filltir ychwanegol ac mae'n parhau i archwilio sut y gallwn fod yn ddylanwad cadarnhaol trwy lwybrau eraill, ynghyd â darparu tai a chyflawni ein nodau.

 

Nid yw gwneud cais am rôl gyda FCHA yn golygu dim ond darparu llety arbenigol i bobl ag anghenion ychwanegol. Cewch gyfleoedd niferus i gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd o fudd amgylcheddol a chymdeithasol i'r cymunedau lle'r ydym ni'n gweithio.

Buddion Cymunedol

Grant Cynnwys y Gymuned

 

Trwy gydol y flwyddyn, gwariodd FCHA hyd at £12000 yn cefnogi prosiectau, syniadau a digwyddiadau sy'n hyrwyddo cyfleoedd newydd / yn cysylltu pobl ag anableddau yn eu cymuned. Mae hyn wedi bod yn arfer rheolaidd yn FCHA am y 15 mlynedd diwethaf ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran hyrwyddo prosiectau iechyd a lles mewn cymunedau lleol. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys: 

  • Costau cyfarpar a llogi ​Danceclusions ar gyfer dosbarthiadau dawns i bobl ag Anabledd Dysgu.

  • Cartrefi Cymru - Offerynnau cerdd ar gyfer eu côr. 

  • 'Takeover' disco Drive sy'n cael ei redeg gan un o'n tai yng Nghastell-nedd Port Talbot ac sy'n dod â'r gymuned ac artistiaid lleol ynghyd. 

  • Cardiff Chameleons - cludiant i dwrnamaint bowls yn yr Alban. 

  • Cycling4All i gynnal sesiynau beicio a lles Pedal Power yng ngogledd Cymru 

Cynllun y Nadolig Contractwyr ac Ymgynghorwyr 

Cyn y Nadolig bob blwyddyn, mae rhai o'n contractwyr ac ymgynghorwyr yn cyfrannu rhoddion yn hael i denantiaid FCHA. Rhoddir y rhain i denantiaid ar ffurf Cardiau Rhodd Archfarchnadoedd ac maen nhw wedi cael eu gwario ar ginio Nadolig a hanfodion dros gyfnod y Nadolig.

Dewislen Gwerth Cymdeithasol

 

Yn ein gwaith Gwerth Cymdeithasol, mae First Choice yn partneru â'n contractwyr a'n cyflenwyr i gyflawni deilliannau lles i denantiaid. Mae hyn wedi'i integreiddio i'n proses gaffael i sicrhau ein bod yn gwneud mwy i roi'n ôl i'r gymuned. Mae ein gwaith Gwerth Cymdeithasol yn darparu cyfleoedd ychwanegol i denantiaid gael mwy o'r hyn y mae ei angen arnynt ac i wneud mwy o'r hyn sy'n mynd â'u bryd! P'un a yw hyn yn brosiect gardd, darparu dodrefn, gwario mwy o amser gyda phobl eraill, neu wneud rhywbeth hollol newydd!

Working Wardrobe

Mae staff FCHA yn cyfrannu dillad sy'n briodol ar gyfer cyfweliadau neu waith i Working Wardrobe, sy'n cefnogi ceiswyr swydd yng Nghymru 

Buddion Rheolaidd 

 

Mae FCHA yn mynd ati o'i ben a'i bastwn ei hun trwy wneud ceisiadau am gyllid allanol ar gyfer costau byw i gefnogi tenantiaid, lle bo angen

Yn ogystal â Grant Cynnwys y Gymuned, mae FCHA yn buddsoddi mewn sefydliadau eraill sy'n rhai nid er elw, lle bo hynny'n briodol. Mae buddsoddiad blynyddol yn Gig Buddies a gallwch ddysgu rhagor am hyn yma. 

Bob blwyddyn, mae FCHA yn enwebu Elusen ddethol, sef Felindre, eleni. Bydd staff yn cyflawni nifer o weithgareddau trwy gydol y flwyddyn i gefnogi'r achos hwn, gan gynnwys teithiau cerdded noddedig, gwerthu cacennau a syniadau eraill.

 

Yn ogystal â nifer o Ddigwyddiadau i Denantiaid y gallwch ddarllen amdanynt yma, mae gennym docyn lles yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n caniatáu i denantiaid ymweld â theithiau natur gyda theulu a ffrindiau ledled Cymru

Mae FCHA wedi bod yn annog Cynhwysiant Digidol yn frwd ymhlith tenantiaid. Gyda mwy a mwy o fusnesau'n dibynnu'n helaeth ar dechnoleg, sy'n disodli'r hen ddulliau pen a phapur, mae llawer o denantiaid yn cael eu gadael ar ôl. Gyda Chymunedau Digidol Cymru, rydym wedi darparu cannoedd o iPads, gliniaduron ac addysg i denantiaid i'w helpu i gadw i fyny â'r byd modern. 

Effaith Amgylcheddol

Mae FCHA yn cynnig Casgenni Dŵr i unrhyw un sydd â diddordeb. Mae Casgenni Dŵr yn casglu dŵr glaw i'w ddefnyddio yn yr ardd yn hytrach na rhedeg tap, gan arbed dŵr a gwarchod yr amgylchedd. 

 

Mae nifer o welliannau i'r cartref y mae FCHA yn eu rhoi ar waith mewn eiddo newydd ac eiddo wedi'u hadnewyddu sy'n cyfrannu at nod FCHA o gyflawni sero net erbyn 2030. Nodweddion fel batris a phaneli solar, uwchraddio ynysu, systemau gwresogi newydd a goleuadau ynni isel

Bob blwyddyn i wrthbwyso targedau sero net, rydym yn rhoi arian i blannu coed ar draws Cymru. 

I gynyddu bioamrywiaeth yng ngerddi cefn tenantiaid, mae FCHA yn partneru â Cadwch Gymru'n Daclus i osod gwelyau uwch y llawr ac i blannu coed, planhigion a chynnyrch

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

I'r Tenantiaid 

Mae FCHA wedi dod â llais tenantiaid i ystafell y bwrdd trwy ffurfio Grŵp Cynghori Tenantiaid. Mae'r grŵp hwn yn cyfarfod yn rheolaidd i siarad am yr hyn sy'n bwysig i denantiaid o ran eu cymuned a'u cartref. Yna, anfonir y sylwadau hyn at y bwrdd ac fe'u defnyddir i effeithio ar benderfyniadau. Yn fwyaf nodedig, roedd barn y Grŵp Cynghori Tenantiaid ar Genhadaeth, Gweledigaeth a Gwerthoedd FCHA yn ganolog i'r broses benderfynu wrth greu'r rhai newydd. 

Rydym ni'n rhyddhau Arolwg Boddhad a Lles Tenantiaid yn flynyddol, sy'n casglu gwybodaeth gan denantiaid First Choice i helpu creu prosiectau newydd yn y dyfodol ac i gael syniad o sut mae tenantiaid yn teimlo am eu cartref a'u cymuned.

Mae'r holl ddogfennau sy'n cael eu dosbarthu i denantiaid ar gael ar ffurf hawdd eu darllen fel ei bod hi'n haws deall gwybodaeth gymhleth, a all effeithio ar eu cartref neu eu lles. Mae'r rhain yn amrywio o'r penderfyniadau a wnaed yn y Bwrdd i amlygu bwlio ac aflonyddu. 

Mae FCHA yn rhan o Brosiect REACH Cymru ochr yn ochr â'r Brifysgol Agored. Mae prosiect REACH yn annog trigolion lleol i ymwneud â'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth. O ddigwyddiadau fel ymweld â Sain Ffagan ar daith, i fynd am dro a siarad am brofiad pobl LHDT yng Nghaerdydd. Rydym yn parhau i fod yn rhan o'r prosiect hwn ac rydym yn annog staff i gymryd rhan. 

I'r Staff 

Mae FCHA wedi creu fforwm staff. Yn debyg i'r Grŵp Cynghori Tenantiaid, dyma grŵp o aelodau staff sy'n gallu trafod gwelliannau i'r sefydliad. Mae hyn yn amrywio o gyfleu materion pwysig i farn am sut mae FCHA yn gwneud o ran materion QED ac Amgylcheddol. 

Yn flynyddol, mae FCHA yn cynnal arolygon Boddhad a Straen i gael syniad o sut mae staff yn dod yn eu blaen yn y swyddfa ac mae'n helpu i amlygu gwelliannau i'r sefydliad yn y dyfodol

Yn ddiweddar, mae un o ystafelloedd y swyddfa wedi'i haddasu'n ystafell lles newydd, amlddefnydd. Mae'r ystafell hon yn cael ei defnyddio ar gyfer ioga, tylino a gellir ei defnyddio fel ystafell weddïo. 

Mae llawer o gyfleoedd hyfforddiant i staff FCHA yn gysylltiedig â'u swydd bresennol. Mae FCHA hefyd yn darparu cyllid tuag at gymwysterau sy'n eich helpu i wneud eich swydd.

Yn sgil cael adborth gan Fforwm y Staff a grybwyllwyd uchod, mae FCHA wedi cynyddu eu habsenoldeb tadolaeth o bythefnos i 3 wythnos

Erbyn hyn, mae gan FCHA 2 ladmerydd y menopos sydd yno i siarad ag unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am y menopos er mwyn cynorthwyo staff neu aelodau teulu sy'n mynd trwyddo

Mae holl staff FCHA yn cymryd rhan mewn Hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar E-ddysgu, gan gydnabod pwysigrwydd trin pawb yn deg ac yn gynhwysol. Hefyd, rydym yn cynnal nifer o anerchiadau i staff naill ai'n fewnol neu sy'n cael eu cynnig gan Tai Pawb. 

Mae anerchiadau blaenorol i staff yn cynnwys: 

  • Johnny Cotsen - Ymwybyddiaeth byddardod 

  • Ruth Birch - Brwydro gyda Balchder 

Am wybodaeth ychwanegol ac i weld y swyddi sydd ar gael i chi, gallwch ymweld â gweddill ein gwefan!

Cymdeithas Tai First Choice Ltd
10 Village Way, Greenmeadow Springs
Caerdydd
CF15 7NE
Ffôn: (029) 20703758

Cofrestrwyd gyda Statws Elusennol o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
Rhif 26118R Cofrestrwyd gyda Senedd Cymru o dan rif J094

© Cymdeithas Tai First Choice 2020
Dyluniwyd yn fewnol gan ein tîm TGCh

  • LinkedIn
  • Facebook
  • Instagram

Ffoniwch: 02920703758

Polisi Preifatrwydd

bottom of page