top of page

Cwrdd â’r Grŵp Cynghorol Tenantiaid

Tenant Advisory Group_edited.jpg

Mae ein Grŵp Cynghorol Tenantiaid newydd yn cynnwys tenantiaid o bob rhan o Gymru, Swydd Amwythig a Telford. Maen nhw’n cyfarfod yn rheolaidd â ni yn y swyddfa neu drwy gyfrwng Zoom, yn ogystal â chwrdd ag aelodau’r Bwrdd. Mae’r grŵp yn gallu rhannu eu barn ar bethau sy’n bwysig iddyn nhw er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.

Eleni, gofynnom i denantiaid beth oedd cartref yn ei olygu iddyn nhw, a byddwn ni’n ystyried eu hadborth wrth ddylunio cartrefi ar gyfer tenantiaid y dyfodol. Eleni, yn ogystal, bu ein Grŵp Cynghorol Tenantiaid yn helpu i ail-lunio ein gweledigaeth, ein gwerthoedd a’n datganiad cenhadaeth ar gyfer y Gymdeithas i’w gwneud yn fwy hygyrch ac yn haws eu deall.

Rydym wedi gweld cynnydd yn hyder aelodau ein Grŵp Cynghorol Tenantiaid, yn enwedig yn y ffordd maen nhw’n rhannu safbwyntiau ac yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau gyda First Choice. Mae cael lleisiau Tenantiaid ar lefel y bwrdd wedi helpu i wella FCHA o ran gwneud penderfyniadau sy’n canolbwyntio mwy ar denantiaid a’u grymuso i gael llais gwirioneddol ystyrlon yn yr hyn sy’n digwydd.

Isod, mae gwybodaeth am aelodau presennol y Grŵp Cynghorol Tenantiaid, a’r pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw, a pham maen nhw wedi ymuno â’r grŵp!

rh introduction photo_edited.jpg

Richie

Richie ydw i, dwi’n dod o Gaerdydd, dwi’n hoffi mynd i lawer o gigs gan fy mod i’n Gyfaill Gig. Yn ddiweddar, mynychais gigs fel Green Man Rising, Panic Shack a Lemfreck. Dwi hefyd yn mwynhau gwylio a mynychu reslo. Dwi’n mwynhau gwirfoddoli gan fy mod i’n hoffi helpu pobl eraill. Yn ogystal, dwi’n gweithio gydag Innovate Trust fel swyddog cyfranogiad.


Dwi’n hoffi’r Grŵp Ymgynghorol gan ei fod yn fy nghadw’n brysur, dwi’n cael cwrdd â staff a thenantiaid, ac mae fy hyder wedi cynyddu ers i mi ymuno â’r grŵp.

G.H.jpg

Gareth

Fy enw i yw Gareth, a dwi’n mwynhau gwylio Dinas Caerdydd yn chwarae, gwylio rygbi a chwarae bowls.

Dwi’n hoffi teimlo fy mod i’n cael fy nghynnwys, a gweld pawb, a theimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth.

1000000182.jpg

Michelle

Helô, Michelle ydw i a dwi’n dod o Bowys. Mae gen i lawer o hobïau gan gynnwys siopa, y theatr, gweld fy merch, a mynychu digwyddiadau lleol.

Dwi’n hoffi siarad â’r grŵp, a lleisio fy nymuniadau a’m hanghenion ynghylch materion tai, a chwrdd â thenantiaid eraill.

e1ab138a-49b6-4e1e-a993-d14ecd219395.jpg

Toni

Toni ydw i, dwi’n dod o Gymru. Dwi’n hoffi mynychu’r clwb Phab, a threulio amser gyda fy nghariad, a sgwrsio â phobl.

Dwi’n hoff iawn o fod yn y Grŵp Cynghorol Tenantiaid a bod yn rhan o dîm.

Dan.jpeg

Dan

Helô, Daniel ydw i. Dwi’n byw yn Lloegr, dwi’n hoffi pobi sgons caws, garddio a mynd ar y cwch camlas.

Dwi’n hoffi cwrdd â phawb yn y Grŵp Cynghorol Tenantiaid.

LJ photo pint.JPG

Lloyd

Lloyd ydw i, dwi’n dod o Faesteg, dwi’n mwynhau cyfrifiaduron, cymdeithasu a bocsio!

Dwi’n hoffi’r Grŵp Cynghorol Tenantiaid gan fy mod i’n cael cwrdd â phobl newydd, ac mae’n rhoi’r hyder i mi siarad o flaen pobl eraill.

Poppy.jpeg

Poppy

Fy enw i yw Poppy, a dwi’n byw yng Ngogledd Cymru. Dwi’n hoffi darllen, treulio amser gyda fy nghathod, a chreu cardiau.

Dwi’n mwynhau helpu pobl yn fawr iawn, a dyna pam ymunais i â’r grŵp i ddechrau.

Media - 2026-05-05T132627.491.jpg

Ann-Marie

Fy enw i yw Poppy, a dwi’n byw yng Ngogledd Cymru. Dwi’n hoffi darllen, treulio amser gyda fy nghathod, a chreu cardiau.

Dwi’n mwynhau helpu pobl yn fawr iawn, a dyna pam ymunais i â’r grŵp i ddechrau.

1000010675.jpg

James

Fy enw i yw Poppy, a dwi’n byw yng Ngogledd Cymru. Dwi’n hoffi darllen, treulio amser gyda fy nghathod, a chreu cardiau.

Dwi’n mwynhau helpu pobl yn fawr iawn, a dyna pam ymunais i â’r grŵp i ddechrau.

Cymdeithas Tai First Choice Ltd
10 Village Way, Greenmeadow Springs
Caerdydd
CF15 7NE
Ffôn: (029) 20703758

Cofrestrwyd gyda Statws Elusennol o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
Rhif 26118R Cofrestrwyd gyda Senedd Cymru o dan rif J094

© Cymdeithas Tai First Choice 2020
Dyluniwyd yn fewnol gan ein tîm TGCh

Ffoniwch: 02920703758

  • LinkedIn
  • Facebook
  • Instagram

Polisi Preifatrwydd

bottom of page