
Pryderon, Canmoliaeth a Chwynion
Bydd First Choice yn delio ag unrhyw gŵynion sydd gennych am ein gwasanaethau. Byddwn yn ceisio esbonio pethau i chi os nad ydych yn deall. Os ydym wedi gwneud rhywbeth o'i le, byddwn yn ymddiheuro ac yn ceisio cywiro pethau.
Ydych chi wedi gofyn i ni eto?
Os ydych chi'n cysylltu â ni am wasanaeth am y tro cyntaf, (e.e. rhoi gwybod am soced drydanol ddiffygiol neu ddweud wrthym am broblem gyda chymydog), nid cwyn yw hynny. Dylech chi roi cyfle i ni ddelio â'ch cais, yn y lle cyntaf.
Os ydych chi'n gwneud cais am wasanaeth ac wedyn yn anhapus gyda'n hymateb, mae hynny'n gŵyn. Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth nad ydym yn ei reoli, e.e. nid yw Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid Grant Addasiadau Ffisegol, byddwn yn dweud wrthych sut i gysylltu â'r bobl gywir.
Fel arfer, dim ond os byddwch chi'n dweud wrthym am y broblem o fewn chwe mis y byddwn ni'n gallu ystyried eich cwyn. Mae hyn oherwydd ei bod hi'n well ymchwilio i'ch cwyn tra bod y problemau'n dal yn ffres ym meddwl pawb.
Cwynion Anffurfiol
Rydym ni o'r farn ei bod hi'n well delio â phethau ar unwaith os oes modd, yn hytrach na cheisio eu datrys yn ddiweddarach. Os oes gennych bryder, codwch ef gyda'r bobl rydych chi'n delio â nhw. Byddan nhw'n ceisio delio â'ch pryder ar eich rhan yn y fan a'r lle.
Os na all yr aelod o staff helpu, bydd yn esbonio pam a gallwch wedyn ofyn am ymchwiliad ffurfiol.
Sut i wneud cwyn
Gofynnwch i'r sawl rydych chi wedi bod yn delio â nhw am ein ffurflen gwyno. Dywedwch wrthyn nhw eich bod am i ni ddelio â'ch cwyn yn ffurfiol.
Ffoniwch ein Swyddog Cwynion ar (029)20 703758
Defnyddiwch y ffurflen ar ein gwefan yn www.fcha.org.uk/contact
Anfonwch e-bost atom yn customerservices@fcha.org.uk
Ysgrifennwch atom yn y cyfeiriad canlynol:
Cymdeithas Tai First Choice
Uned 10 Village Way, Greenmeadow Springs
CF15 7NE
Mae copïau o’r daflen hon a’r ffurflen gwyno ar gael yn Gymraeg, Saesneg ac mewn unrhyw iaith neu fformat arall ar gais e.e. sain, print bras ac ati.
Delio â Chwyn
-
Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod i chi sut rydyn ni'n bwriadu delio â'ch cwyn.
-
Byddwn yn gwirio gyda chi sut yr hoffech i ni gyfathrebu â chi a ph'un a oes gennych unrhyw ofynion – er enghraifft, os oes gennych anabledd.
-
Byddwn yn delio â'ch cwyn mewn ffordd onest. Byddwn yn sicrhau na fydd ein gwasanaethau i chi yn y dyfodol yn cael eu heffeithio oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn i ni.
Os ydych chi'n gwneud cwyn ar ran rhywun arall, byddwn angen eu caniatâd i chi weithredu ar eu rhan.
Os oes mwy nag un Sefydliad yn gysylltiedig
-
Os yw eich cwyn yn ymwneud â mwy nag un sefydliad, megis Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol neu ddarparwr cymorth, byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn delio â'ch cwyn.
-
Byddwch yn cael enw'r person a fydd yn ystyried eich cwyn.
-
Os yw’r gŵyn yn ymwneud â sefydliad sy’n gweithio ar ein rhan ni, fel contractwyr neu unrhyw un mae First Choice wedi gofyn iddyn nhw ymweld â’ch eiddo, efallai yr hoffech siarad â nhw yn gyntaf.
-
Fodd bynnag, os ydych am gwyno'n ffurfiol, byddwn yn ymchwilio i hyn ac yn ymateb i chi.
Ymchwiliad
Y person yn First Choice a fydd fel arfer yn ymchwilio i'ch cwyn yw'r Rheolwr Tai Gweithredol. Bydd yn gofyn ichi ddweud wrtho pa ganlyniad rydych chi'n gobeithio ei gael.
Byddwn yn delio â chwynion mor gyflym â phosibl. Rydym yn disgwyl ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
Os nad yw eich cwyn yn un syml, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa mor hir y byddwn yn disgwyl i'r ymchwiliad gymryd.
Byddwn hefyd yn rhoi diweddariadau rheolaidd i chi. Efallai y byddwn yn gofyn am gwrdd â chi i drafod eich pryderon.
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn awgrymu cyfryngu neu ffordd arall o geisio datrys eich cwyn.
Canlyniad
Ar ôl i ni ymchwilio i'ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydym wedi'i ddarganfod
ac yn ceisio cywiro hynny.
Os na wnaethom ddarparu gwasanaeth y dylech fod wedi'i gael, byddwn yn darparu'r gwasanaeth ar unwaith, os yw'n bosibl.
Os byddwn wedi gwneud rhywbeth yn wael, byddwn yn ei gywiro os gallwn ni.
Os gwnaethon ni rywbeth yn anghywir, byddwn yn dweud wrthych pam y digwyddodd ac yn ymddiheuro.
Os oes nam yn ein systemau neu'r ffordd rydym yn gwneud pethau, byddwn yn dweud wrthych. Byddwn yn dweud wrthych sut y byddwn yn newid pethau i'w atal rhag digwydd eto.
Hawl i Apelio
Os ydych yn anfodlon o hyd, gallwch ofyn am adolygiad mewnol gan Gyfarwyddwr neu Brif Weithredwr y Gymdeithas. Os ydych yn anfodlon o hyd â chanlyniad eich cwyn ar ddiwedd y broses apelio, mae gennych yr hawl i gwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ddefnyddio'r manylion isod.
Yr Ombwdsmon
Os na allwn ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth a gall ymchwilio i’ch cwyn os ydych o'r farn eich bod chi, neu’r sawl rydych yn cwyno ar ei ran, wedi cael eich trin yn annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael gan First Choice.
Mae'r Ombwdsmon yn disgwyl i chi roi cyfle i ni gywiro pethau yn gyntaf. Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon fel a ganlyn:
Ffôn: 01656 641150
E-bost: gofyn@ombwdsmon-cymru.org.uk
Gwefan: www.ombwdsmon-cymru.org.uk
Ysgrifennu at:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pencoed
CF35 5LJ
Dysgu Gwersi
Byddwn yn cymryd eich cwynion o ddifrif ac yn ceisio dysgu o unrhyw gamgymeriadau a wnaethom.
Mae ein huwch dîm rheoli a'n Bwrdd Rheoli yn ystyried ein hymateb
i gŵynion bob mis.
Beth os bydd angen help arna' i?
Bydd ein staff yn eich helpu i wneud eich cwyn i ni.
Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, rhowch wybod i ni. Efallai y byddwch am gysylltu ag aelod o’ch teulu, eich darparwr cymorth (os oes gennych chi un) neu wasanaeth eiriolaeth i’ch helpu.
Os ydych chi o dan 18 oed, gallwch siarad â rhywun ar Linell Gymorth Meic (ffoniwch 080880 23456, www.meiccymru.org) neu cysylltwch â Chomisiynydd Plant Cymru.
Dyma'r manylion cyswllt:
01792 765600 (y de)
01492 523333 (y gogledd)
Swyddfa De Cymru:
Tŷ Ystumllwynarth
Ffordd Ffenics
Llansamlet
Abertawe
SA7 9FS
Swyddfa Gogledd Cymru:
Maenordy Penrhos
Oak Drive
Bae Colwyn
Conwy
LL29 7YW
Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Rydym yn credu bod gan unrhyw un sy’n cwyno yr hawl i gael ei glywed, ei ddeall a’i barchu.
Mae First Choice yn ystyried bod gan ein staff yr un hawliau, hefyd. Rydym yn disgwyl i chi fod yn gwrtais wrth gysylltu â ni.
Canmoliaeth
Mae pob un ohonom ni'n hoffi gwybod pan fyddwn ni'n gwneud rhywbeth yn dda, ac yma yn First Choice, dydyn ni ddim gwahanol. Caiff pob canmoliaeth ei chyfleu i'r staff a'n Bwrdd Rheoli. Mae canmoliaeth yn ein helpu ni i wybod beth rydym yn ei wneud yn dda a beth rydych chi am i ni barhau i'w wneud.
Rydym hefyd eisiau clywed gennych os oes gennych awgrym am sut i wella ein gwasanaeth i chi.
Gallwch chi roi canmoliaeth i ni drwy:
Ffonio: (029) 20 703 758
E-bostio: customerservices@fcha.org.uk
Drwy'r post:
Cymdeithas Tai First Choice
Uned 10 Village Way, Greenmeadow Springs
CF15 7NE
Bydd First Choice yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae copi llawn o'n Cynllun Iaith Gymraeg a fersiwn Saesneg o'r ddogfen hon ar gael ar gais.
Cysylltwch â'r Gymdeithas os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn iaith neu fformat arall.
Mae First Choice wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth fel cyflogwr ac fel landlord. Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg, cysylltwch â’r Prif Weithredwr ar 029 2070
3758.
Mae First Choice wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru: J094.
Mae First Chocie wedi’i gofrestru gyda Statws Elusennol o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965: 26118R.