Cynlluniau Tai Hygyrch
Mae ein Cynlluniau Tai Hygyrch wedi'u dylunio'n bwrpasol i ddarparu cartref addas a fydd yn bodloni anghenion penodol pobl sydd ag anabledd trwy ddarparu addasiadau penodol a chyfarpar ar gyfer anabledd.
I bobl ag anabledd, mae First Choice yn cydnabod bod byw'n annibynnol o'r pwys mwyaf a thrwy ddarparu cartref sy'n cynnwys cyfarpar arbenigol mewn gosodiad wedi'i adeiladu'n bwrpasol, gall tenantiaid ymdopi â'u tasgau bywyd bob dydd yn hawdd, yn annibynnol ac yn ddiogel.
Mae Tai First Choice yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i nodi ymgeiswyr addas o'u rhestri aros am dai arbenigol. Pan fydd ymgeisydd wedi'i gynnig i ni, byddwn yn gweithio gyda Therapyddion Galwedigaethol i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei ddylunio i gyd-fynd yn bwrpasol ag anghenion arbenigol yr ymgeisydd.
Gall Tai First Choice gyflenwi cyfarpar fel baddonau arbenigol, teclynnau codi, toiledau, ystafelloedd gwlyb/cawodydd â mynediad gwastad, ac unedau cegin a sinciau sy'n codi a gostwng. Yn fewnol, bydd yr ystafelloedd a'r drysau yn cael eu dylunio gyda'r darpar denant mewn golwg, i sicrhau bod ganddynt ddigon o le, eu bod yn hygyrch a bod ganddynt addasiadau addas a fydd yn gwneud bywyd cymaint yn haws, yn enwedig i'r rhai sy'n defnyddio cadair olwyn.
​
Mae First Choice yn darparu llety byw â chymorth ledled Cymru, Swydd Amwythig a Telford i amrywiaeth o gleientiaid agored i niwed. Mae cymorth i'r cleientiaid hynny yn cael ei ddarparu gan amrywiaeth o ddarparwyr gofal cartref, sydd wedi'u penodi gan yr awdurdod lleol, fel arfer.
​
Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cais am gartref First Choice yma: