top of page

Polisi Preifatrwydd

Cyflwyniad

​

Mae Cymdeithas Tai First Choice (FCHA) yn rhoi pwys mawr ar eich ymddiriedaeth ac mae'n ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio pa ddata personol rydym yn ei gasglu, sut byddwn yn ei ddefnyddio, a pha hawliau sydd gennych. Caiff pob data ei brosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), ac rydym ni'n cadw at y saith egwyddor ar gyfer prosesu data personol yn gyfreithlon:

​

  • Cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder

  • Cyfyngu ar ddibenion

  • Lleihau data 

  • Cywirdeb

  • Cyfyngu ar storio data

  • Cywirdeb a chyfrinachedd (diogelwch)

  • Atebolrwydd

​

Trwy fynd at ein gwefan yn www.fcha.org.uk neu ei defnyddio, neu trwy ddarparu gwybodaeth bersonol i ni fel arall, rydych yn cydnabod yr arferion a ddisgrifir yn y polisi hwn. 

 

 

Manylion Cyswllt

​

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau ynghylch eich data personol, cysylltwch â ni drwy'r canlynol:

​

​

  • Ffôn: 02920 703 758

​​

  • Post: Cymdeithas Tai First Choice, 10 Village Way, Tongwynlais, Caerdydd, CF15 7NE

​​

​

​

 

Gwybodaeth rydym ni'n ei chasglu a sut rydym ni'n ei chasglu

​​

 

Gwybodaeth rydych chi'n ei darparu

​

Rydym yn derbyn, yn casglu ac yn storio unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ar ein gwefan neu'n ei rhoi i ni mewn unrhyw ffordd arall (e.e. drwy'r e-bost, drwy'r post, dros y ffôn neu ar ffurflenni). Gall hyn gynnwys:

 

  • Enwau a manylion cyswllt (e.e., cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyfeiriad post)

​

  • Gohebiaeth (e.e. negeseuon rydych chi'n eu hanfon atom neu ffurflenni rydych chi'n eu llenwi)

​

  • Manylion rydych chi'n eu darparu wrth godi ymholiadau, cwynion neu hawliadau (e.e., datganiadau tyst, gwybodaeth berthnasol o ymchwiliadau blaenorol)

​

 

Gwybodaeth rydym ni'n ei chasglu'n awtomatig

​

Hefyd, mae gwybodaeth dechnegol benodol rydym ni'n ei chasglu'n awtomatig pan fyddwch chi'n ymweld â'n gwefan, fel:

  • Cyfeiriad Protocol y Rhyngrwyd (IP) a ddefnyddir i gysylltu eich cyfrifiadur â'r rhyngrwyd 

​

  • Math o borwr, ei fersiwn a gwybodaeth gysylltu

​

  • Gwybodaeth am y sesiwn (amseroedd ymateb tudalennau, hyd yr ymweliadau, rhyngweithio â thudalennau, dulliau a ddefnyddir i bori o dudalennau)

​

Gallem ddefnyddio meddalwedd (gan gynnwys cwcis) i fesur a chasglu gwybodaeth sesiwn, sy'n ein helpu i wella ein gwefan a darparu ein gwasanaethau yn fwy effeithlon.

​​

​

​

 

Pam rydym ni'n casglu gwybodaeth bersonol 

 

Rydym ni'n casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol a gwybodaeth nad yw'n bersonol at y dibenion canlynol:

​

  1. Darparu a gweithredu ein gwasanaethau ​

  • Sicrhau gwasanaethau effeithlon a diogel (e.e. chwilio am broblemau technegol posibl)

  1. Darparu nodweddion ein gwefan a delio ag ymholiadau, cwynion neu hawliadau defnyddwyr

  2. Darparu cymorth i gwsmeriaid a chymorth technegol yn barhaus

  • Ymateb i'ch ymholiadau a'ch ceisiadau yn brydlon ac yn gywir 

  • Cadw cofnod o ohebiaeth i wella ein rhyngweithiadau yn y dyfodol 

  1. Gwella a Datblygu ein Gwasanaethau

  • Creu data ystadegol cyfanredol (neu amcan o ddata nad yw'n bersonol) at ddibenion dadansoddeg

  • Mireinio cynnwys, teilwra profiad y defnyddiwr a gwella perfformiad y wefan 

  1. Cydymffurfio â Chyfreithiau a Rheoliadau Perthnasol 

  • Bodloni gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol neu gytundebol

  • Sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol 

  1. Diogelu ein buddiannau Cyfreithiol a Busnes

  • Amddiffyn rhag twyll, mynediad anawdurdodedig, neu weithgareddau niweidiol eraill

  • Sicrhau parhad ein sefydliad a'i fod yn cydymffurfio â'r gyfraith

​

​

 

Ein Seiliau Cyfreithlon dros Brosesu o dan GDPR y DU

 

Rydym ni'n dibynnu ar seiliau cyfreithlon gwahanol, yn dibynnu ar natur y prosesu gennym:

​​

  1. Cydsyniad 

  • Pan fyddwn ni'n gofyn yn benodol am eich caniatâd (er enghraifft, i anfon gohebiaeth farchnata benodol).

  • Eich hawl i dynnu cydsyniad yn ôl: Os ydym ni'n dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithlon, gallwch dynnu cydsyniad yn ôl unrhyw bryd trwy gysylltu â ni.

  1. Buddiannau dilys

  • Rydym ni'n casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol pan fydd o fudd i chi, i'n sefydliad neu i eraill heb achosi risg niwed amhriodol.

  • Enghreifftiau o'n Buddiannau dilys:

  • Sicrhau gwasanaethau effeithlon a diogel: Monitro perfformiad gwefan, darganfod bygythiadau diogelwch.

  • Gwella a datblygu ein gwasanaethau: Casglu dadansoddeg ar dudalennau rydych wedi ymweld â nhw, hyd y sesiwn, ac ati.

  • Darparu cymorth effeithiol i gwsmeriaid: Rheoli ymholiadau neu gŵynion.

  • Diogelu buddiannau cyfreithiol a busnes: Cydymffurfio â'r gyfraith, ymateb i archwiliadau, neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

  • Eich Hawl i Wrthwynebu: Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu ar sail buddiannau dilys. Os ydych chi'n dymuno gwrthwynebu, cysylltwch â ni.

​

​

 

Am ba hyd rydym ni'n cadw gwybodaeth

​

Rydym yn cadw data personol dim ond cyhyd ag y bo'i angen i gyflawni dibenion casglu'r data hwnnw, neu yn unol â gofynion y gyfraith.

​​

​

​

 

Cadw Data 

Rydym ni'n cadw eich data personol dim ond cyhyd ag y bo'i angen i gyflawni'r dibenion sy'n cael eu disgrifio yn y Polisi Preifatrwydd hwn - fel darparu ein gwasanaethau, bodloni gofynion cyfreithiol neu ofynion cyfrifo, a delio ag unrhyw anghydfodau. Pan na fydd angen eich data personol mwyach at y dibenion hyn, rydym ni'n ei ddileu neu ei ddinistrio'n ddiogel, neu'n tynnu manylion adnabod ohono, yn unol â'n polisïau mewnol ar gadw data a chyfreithiau perthnasol.

​​

Rydym ni'n adolygu ein cyfnodau cadw yn rheolaidd i sicrhau nad ydym yn cadw data'n hirach nag y bo'i angen. Os hoffech ragor o wybodaeth am ein hamserlenni cadw penodol neu os ydych o'r farn ein bod yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn anghyfreithlon, cysylltwch â ni.

​​

​

​

 

Gyda phwy rydym ni'n rhannu gwybodaeth bersonol

​

Nid ydym yn gwerthu eich data personol i drydydd partïon, ond gallem rannu gwybodaeth benodol gyda:

​

  • Darparwyr Gwasanaethau a Chontractwyr: Cwmnïau sy'n cyflawni gwasanaethau ar ein rhan.

  • Sefydliadau am Resymau Diogelu: Lle bo'r angen i amddiffyn unigolion mewn perygl neu sydd mewn sefyllfaoedd bregus.

  • Awdurdodau Ymchwilio Ariannol neu Dwyll: Os bydd angen i atal neu ganfod twyll. 

  • Ymgynghorwyr Proffesiynol neu Gyfreithiol: Am gyngor neu gymorth cyfreithiol, pan fydd angen.

  • Archwilwyr neu Arolygwyr Allanol: I fodloni rhwymedigaethau rheoleiddiol neu gytundebol.

  • Gwasanaethau Brys: Pan fydd risg neu niwed uniongyrchol.

  • Cynghorau a Sefydliadau Sector Cyhoeddus: Os oes ganddynt sail gyfreithiol i wneud cais am eich gwybodaeth (e.e. i ddarparu gwasanaethau cymorth i chi).

  • Trydydd Partïon Perthnasol Eraill (gyda'ch gwybodaeth neu lle bo'n ofynnol yn gyfreithiol).

  • Sefydliadau y mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnom rannu data gyda nhw: Megis cyrff rheoleiddio neu asiantaethau gorfodi'r gyfraith.

​​

​​

​

 

Eich Hawliau Diogelu Data 

​

O dan GDPR y DU, mae gennych hawliau o ran eich data personol, gan gynnwys:

​

  1. Hawl Mynediad

  • Gofyn am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol a manylion ychwanegol (e.e., ble'r ydym yn ei chasglu a pham, gyda phwy rydym ni'n ei rhannu).

  1. Yr Hawl i Gywiro

  • Gofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau neu gwblhau data anghyflawn.

  1. Yr Hawl i Ddileu (Hawl i gael eich anghofio)

  • Gofyn am ddileu eich data personol, yn amodol ar rai eithriadau.

  1. Yr Hawl i Gyfyngu ar Brosesu

  • Gofyn i ni gyfyngu ar ddefnyddio eich data personol o dan rai amgylchiadau.

  1. Yr Hawl i Wrthwynebu

  • Gwrthwynebu rhai mathau o brosesu, yn enwedig lle bo hynny'n seiliedig ar ein buddiannau dilys.

  1. Yr Hawl i Gludadwyedd Data 

  • Gofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roddoch i ni i sefydliad arall neu yn uniongyrchol i chi, lle bo'n bosibl.

  1. Yr Hawl i Dynnu Cydsyniad yn ôl (lle mae prosesu wedi'i seilio ar gydsyniad)

  • Gallwch dynnu cydsyniad yn ôl unrhyw bryd, heb effeithio ar gyfreithlondeb y prosesu cyn tynnu'n ôl.

Os byddwch yn gwneud cais, byddwn yn ymateb heb oedi diangen ac o fewn mis bob amser. I arfer eich hawliau diogelu data, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion uchod.

​​

​

​

 

Sut i Gwyno

​​

Os oes gennych bryderon am sut rydym yn defnyddio'ch data personol, rydym ni'n eich annog i gysylltu â ni yn y lle cyntaf fel y gallwn fynd i'r afael â'ch pryderon. Gallwch gysylltu â ni drwy:

​

​

 

Newidiadau i'r Polisi Hwn 

​

Rydym yn cadw'r hawl i addasu'r Polisi Preifatrwydd hwn unrhyw bryd, felly darllenwch drosto'n gyson. Bydd newidiadau ac eglurhad ar rywbeth yn dod i rym yn syth pan fyddant wedi'u postio ar ein gwefan. Os byddwn yn gwneud newidiadau perthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi yma fel eich bod yn gwybod pa wybodaeth rydym ni'n ei chasglu, sut rydym ni'n ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ei datgelu.

Diweddarwyd Ddiwethaf: 3 Ionawr 2025

Cymdeithas Tai First Choice Ltd
10 Village Way, Greenmeadow Springs
Caerdydd
CF15 7NE
Ffôn: (029) 20703758

Cofrestrwyd gyda Statws Elusennol o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
Rhif 26118R Cofrestrwyd gyda Senedd Cymru o dan rif J094

© Cymdeithas Tai First Choice 2020
Dyluniwyd yn fewnol gan ein tîm TGCh

  • LinkedIn
  • Facebook
  • Instagram

Ffoniwch: 02920703758

Polisi Preifatrwydd

bottom of page