Llety Byw â Chymorth
Beth yw byw â chymorth?
Mae’r term “Byw â Chymorth” yn disgrifio amrywiaeth eang o opsiynau tai a chymorth ar gyfer pobl agored i niwed. Mae Byw â Chymorth yn wahanol i ofal preswyl a chynlluniau eraill, gan ddilyn egwyddorion sylfaenol lle mae gan bobl eu cartref eu hunain, gyda’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt yn cael eu darparu’n gyfan gwbl ar wahân. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu dewis sut a ble maen nhw'n byw a phwy sy'n eu cefnogi. Mae byw â chymorth yn grymuso pobl agored i niwed ac yn eu galluogi i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth a byw bywyd llawn a gwerthfawr o fewn eu cymuned leol.
Mae Byw â Chymorth yn canolbwyntio ar un person ar y tro, gan gynllunio ar eu cyfer nhw yn unigol. Mae'n dechrau gyda pherthnasoedd a rhwydweithiau cymdeithasol pobl, gan gyfrif am gefnogaeth deuluol ac anffurfiol ac adnoddau cymunedol. O fewn y fframwaith hwn, gellir darparu cymorth â thâl mewn sawl ffordd, gan gynnwys staff a gyflogir gan asiantaeth darparu gofal cymdeithasol neu sefydliad elusennol. Er bod cymorth wedi'i addasu'n unigol, gall pobl sy'n byw gyda'i gilydd yn yr un tÅ· rannu rhai elfennau o gymorth sylfaenol ac yn aml, maen nhw'n parhau i wneud hynny.


Gall Byw â Chymorth fod yn opsiwn addas ar gyfer pobl agored i niwed a all fod ag anghenion cymhleth, anableddau dysgu neu gorfforol neu anghenion iechyd meddwl ac anghenion cymorth eraill, gan fod y cymorth wedi'i deilwra i anghenion unigol. I rai pobl, byw ar eu pen eu hunain sydd fwyaf addas i'w hanghenion tra bydd yn well gan eraill rannu. Cytunir ar sail unigol, gyda nifer yr oriau o gymorth yn cael eu paru ag anghenion unigolyn, a all amrywio o ychydig oriau'r wythnos i gymorth 24 awr.
Mae’r gofal a’r cymorth y mae unigolion yn eu cael yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yng Nghymru a’r Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr. Yn wahanol i ofal preswyl (pan fydd cartref, gofal a chymorth yn cael eu darparu gyda’i gilydd), mae gwahanu’r elfen tai yn golygu bod modd hawlio Budd-dal Tai i dalu costau tai a bod tenantiaid yn cael sicrwydd deiliadaeth ac ni allant gael eu symud yn groes i'w hewyllys.
Gellir darparu Byw â Chymorth mewn amrywiaeth o leoliadau a modelau tai, gan gynnwys fflatiau a thai unigol. Mae unigolion yn byw yno fel tenantiaid neu berchnogion neu drwy ranberchnogaeth, a gallant rentu gan yr awdurdod lleol, cymdeithas dai, a’r landlord preifat, neu hyd yn oed gan rieni neu deulu. Mae llety hunangynhwysol yn cynnig mwy o annibyniaeth i unigolion.
Mae First Choice yn darparu llety byw â chymorth ledled Cymru a Swydd Amwythig ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid agored i niwed. Darperir cymorth i'r cleientiaid hynny gan amrywiaeth o ddarparwyr gofal cartref, sydd wedi'u penodi gan yr awdurdod lleol, fel arfer.
​
Dysgwch fwy am sut i wneud cais am gartref First Choice yma: