top of page

Digwyddiad Cymdeithasol y Gwanwyn i Gyn-filwyr, 2022

Mae 2022 yn flwyddyn bwysig i First Choice Housing Association, wrth i ni ymdrechu’n galed

i wella iechyd a lles ein holl denantiaid a’n staff. I’r perwyl yma, bu i ni gynnal digwyddiad, a oedd yn canolbwyntio ar les, ar gyfer tenantiaid yng Ngogledd Cymru sy’n gyn-aelodau o’r

Lluoedd Arfog. Roedd croeso i’w teulu a’u ffrindiau ddod i’r digwyddiad hefyd.


Roedd Digwyddiad Cymdeithasol Y Gwanwyn Tŷ Ryan yn gyfle i ddod â’r rheiny sy’n byw ar

y safle a rhwydweithiau cefnogi lleol at eu gilydd am brynhawn o gymdeithasu a bwyta

pitsas. Roedd cyfle hefyd i gael torri gwallt am ddim. Ein gobaith oedd y byddai’r prynhawn

yn fodd o greu ymdeimlad o gymuned ar y safle a helpu tenantiaid i deimlo eu bod yn

perthyn.



Ariannwyd Digwyddiad Cymdeithasol y Gwanwyn Tŷ Ryan ar y cyd gan Gyfamod y Lluoedd

Arfog a’n Grant Ymgysylltiad Cymunedol. Bu i ni gyflawni amcanion canlynol Grant Cyfamod

y Lluoedd Arfog:

  • Cefnogi aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog;

  • Cefnogi integreiddiad aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog i’w cymuned;

  • Gwella/cefnogi iechyd a lles Cymuned y Lluoedd Arfog;

  • Lleihau ynysigrwydd aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog;

  • Cefnogi mentrau lleol ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog.


Roedd “The Chop Box”, menter barbwyr symudol, yn cynnig buddion iechyd a lles arbennig i

denantiaid. Manteisiodd nifer o bobl ar y cyfle i gael ysbaid fach yng nghadair y barbwyr.

Dyma’r tro cyntaf i rai gael eu gwallt wedi ei dorri’n broffesiynol ers amser maith, a gan mai cwmni o Wrecsam yw The Chop Box, cymerodd tenantiaid eu manylion cyswllt er mwyn

iddynt allu defnyddio’r gwasanaeth yn y dyfodol.



Daeth Jordy Pizza â’u popty pitsa symudol er mwyn darparu pitsas ffres i’r tenantiaid a’r

rhwydweithiau sy’n eu cefnogi. Roedd ganddynt 4 math o bitsa ar gael felly roedd boliau pawb yn llawn erbyn diwedd y dydd!



Roeddem wrth ein bodd fod cymaint wedi ymuno â ni yn Nigwyddiad Cymdeithasol y

Gwanwyn Tŷ Ryan – wnaeth y tywydd oer a gwlyb ddim llwyddo i’n stopio hyd yn oed.

Roddodd y digwyddiad y cyfle i denantiaid gymdeithasu, nid yn unig gyda’u gilydd, ond

gyda’u cymdeithas dai a gwasanaethau cefnogi eraill o’r ardal, megis Woody’s Lodge, Help

for Heroes a Cyngor ar Bopeth Wrecsam.

Categories

Recent Stories

bottom of page