top of page

6 Rheswm pam y dylai tenantiaid FCHA ymweld ag un o safleoedd yr YmddiriedolaethGenedlaethol eleni

Eleni rydym wedi cael tocyn arbennig gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fydd yn galluogi tenantiaid First Choice i ymweld ag unrhyw un o’u safleoedd yn rhad ac am ddim. Does dim rhaid i chi dalu am barcio hyd yn oed! Mae’r tocyn yn galluogi grwpiau o hyd at 50 person i ymweld ag unrhyw un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.


Dyma 6 rheswm pam y dylai tenantiaid First Choice ymweld ag un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn i’r cynnig ddod i ben ym mis Tachwedd.


Mae’r tocyn ar gael gan First Choice nes mis Tachwedd 2022, felly cysylltwch gyda ni os oes diddordeb gennych!


Ffôn: 029 2070 3758


1. Eich helpu i gyrraedd eich amcanion ymarfer corff a lles


P’unai eich bod eisiau treulio mwy o amser yn yr awyr agored, neu weld pa mor bell y galwch wthio eich hun wrth fynd am dro, safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r lle perffaith i wneud hynny.


Mae cerdded yn cadw ein cyrff a’n meddyliau’n iach, yn rhoi seibiant i ni rhag straen a bwrlwm bywyd bob dydd ac yn rhoi cyfle i ni roi trefn ar ein meddyliau. Mae crwydro yng nghefn gwlad hefyd yn dod a ni’n agosach at natur, ac yn gwneud i ni sylweddoli beth sydd gan yr awyr agored i’w gynnig.




2. Creu neu ymuno â grŵp Ffotograffiaeth neu Wylio Bywyd Gwyllt


Os ydych yn mwynhau tynnu lluniau neu wylio bywyd gwyllt, heb os, mae safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ymysg y llefydd gorau i wneud hyn.




Efallai y bydd y llwybrau godidog led led Cymru yn eich ysbrydoli i gydio yn eich camera a thynnu lluniau. Llun o’r haul yn sbecian drwy’r coed, neu hun-lun yng nghysgod bryniau tonnog Cymru efallai.




Gwyddom i nifer o denantiaid gymryd rhan yn nigwyddiad y Big Garden Birdwatch yn 2021. Cofnododd y tenantiaid yr holl adar a welsant yn pigo ar eu byrddau adar yn ystod yr Hydref. Dyma’r cyfle perffaith i roi’ch sgiliau gwylio adar newydd ar waith yng nghefn gwlad.







3. Cwrdd â ffrindiau a theulu yn yr awyr agored


Gall hyd at 50 person ymweld â safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol felly beth am fynd â’ch teulu a’ch ffrindiau yno? Mae ambell i le bendigedig i gael paned o de neu bicnic.


Mae hwn yn gyfle ardderchog i’ch hanwyliaid hefyd! Mae COVID-19 wedi atal pob un ohonom rhag gwneud y pethau yr ydym yn eu mwynhau a gweld y rheiny sy’n annwyl i ni. Mae defnyddio tocyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ffordd dda o ddod a phobl ynghyd.



4. Dysgu am hanes y safle


Mae rhai o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gartref i rai o adeiladau prydferthaf y DU. Mae cyfleoedd lu i chi gael eich tywys ar daith gerdded er mwyn dysgu mwy am hanes y safle.



Byr yw’r teithiau a byddant yn eich helpu i ddeall at pa ddiben yr oedd yr adeiladau’n cael eu defnyddio flynyddoedd maith yn ôl. Gallwch hefyd gerdded drwy’r gerddi a cherdded ar lan yr afonydd.



5. Gwirfoddoli


Beth am helpu i ofalu am ardd gymunedol, rhandir a pherllan drwy ymuno â grŵp gwirfoddol Cyfeillion y Felin. Caiff sesiynau eu cynnal ar ail ddydd Sul y mis, ac maent yn croesawu unrhyw un sy’n 14 neu hŷn.


Beth am gymryd rhan yn un o ddigwyddiadau tacluso’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a helpu i lanhau’r ystâd drwy gasglu ysbwriel ac edrych am unrhyw ddifrod i arwyddion a giatiau.


Os ydych wedi ymuno ag un o’u grwpiau egnïol, beth am fynd gam ymhellach a gyda gwaith gwirfoddol sy’n ymwneud â chwaraeon. Gallwch helpu i adfer y llwybrau er mwyn gwneud yn siŵr y gall esgid ar ôl esgid gerdded, rhedeg a loncian arnynt yn ddiogel yn y dyfodol.


Os ydych yn chwilio am ffordd ardderchog o dreulio eich amser, mae nifer o gyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd, o groesawu ymwelwyr yn y tŷ i waith cadwraeth yn yr awyr agored yn yr ardd ac ar yr ystâd.



6. Am fod mwy a mwy o safleoedd yn hygyrch!


Er fod rhai teithiau cerdded yn fwy anodd na’u gilydd os oes gennych broblemau symudedd, mae llawer o’r safleoedd yn gwella eu hygyrchedd. Golyga hyn y bydd gan denantiaid sydd â chadair olwyn ac anghenion eraill fynediad i nifer o’r safleoedd bendigedig yma.

Beth am ddefnyddio’r tocyn er mwyn gweld beth sydd ganddynt i’w gynnig?


Wrth chwilio ar y rhyngrwyd am eiddo neu safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwch yn dod ar draws ‘Datganiad Hygyrchedd’ ar eu gwefan. Mae’r Datganiadau Hygyrchedd yn helpu pobl i ddeall pa gyfleusterau sydd ar gael a helpu pobl i wneud penderfyniad ynglŷn ag ymweld. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ceisio datblygu eu hygyrchedd ac maent yn gwneud gwelliannau. Golyga hyn y dylai mwy o bobl gydag anableddau allu mwynhau’r safleoedd a chael profiad mwy positif.


Os ydych chi’n teimlo fel gwneud ychydig o ymarfer corff, dyma restr lawn o lwybrau hygyrch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: https://www.nationaltrust.org.uk/features/our-top-accessible-walks


Felly pa un o’r 6 rheswm sy’n denu eich sylw fwyaf? Rhowch wybod i ni!


Byddai First Choice wrth eu bodd pe byddai modd defnyddio’r tocyn cyn iddo ddod i ben ym mis Tachwedd 2022.

Felly cysylltwch â ni os oes diddordeb gennych!


Ffôn: 029 2070 3758


Categories

Recent Stories

bottom of page